Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
18 Hydref 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13011
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.28
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig
Dechreuodd yr eitem am 14.49
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Taith - darparu rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu
Dechreuodd yr eitem am 15.25
5 Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022
NDM8099 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol)(Cymru)(Diwygio)a(Coronafeirws)(Dirymu) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022
Dechreuodd yr eitem am 15.46
NDM8096 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022
Dechreuodd yr eitem am 15.55
NDM8100 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2022
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 - TYNNWYD YN ÔL
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl
9 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22
Dechreuodd yr eitem am 15.57
NDM8094 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22.
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Cyfnod pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.50
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 19 Hydref 2022